Grŵp Trawsbleidiol ar

Saethu a Chadwraeth

 

Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2014, 6.30pm

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd

 

Yn bresennol:

Andrew RT Davies, AC - Cadeirydd Dros Dro

Lindsay Whittle AC

William Powell AC,

Mark Isherwood AC

Rhodri Glyn Thomas AC

Llyr Huws Gruffydd AC

Vincent Bailey, Swyddfa Andrew RT Davies

Gary Ashton, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC) - Cyfarwyddwr Cymru

Tim Russell, BASC - Pennaeth Cadwraeth

Kate Ives BASC, - Cudd-wybodaeth Busnes

Annette Cole, BASC - Taste of Game

Derek Williams, BASC - Swyddog Gwlad

 

Ysgrifennydd

Esther Wakeling, BASC

 

Ymddiheuriadau

Angela Burns AC

Alun Davies AC

 

Croeso

Croesawodd Andrew RT Davies, AC bawb i’r cyfarfod cyntaf, a diolchwyd am y digwyddiad amser cinio a gynhaliwyd yn y Senedd y diwrnod hwnnw.

 

Nodau ac amcanion

Dywedodd Gary Ashton, BASC, ei bod yn bwysig i’r Gymdeithas Brydeinig Saethu a Chadwraeth bod y Grŵp Trawsbleidiol wedi’i sefydlu, er mwyn sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol i gampau saethu. Hefyd, hysbyswyd y grŵp o fwriad Alun Davies, AC, i ymuno â’r grŵp yn y dyfodol.

 

Dywedodd William Powell AC, ei fod yn credu y dylai’r grŵp geisio mynd i’r afael â’r hyn sy’n ymddangos fel gwrthddywediad rhwng saethu a chadwraeth. Awgrymodd hefyd y dylai’r grŵp ystyried pa gyrff sy’n bartneriaid a fyddai’n awyddus i ymuno â’r grŵp, e.e. y Gynghrair Cefn Gwlad, ac y dylid ymchwilio i’r posibilrwydd o gydweithio rhwng y grwpiau, gan gadw hunaniaeth BASC o fewn y grŵp. Roedd Andrew RT Davies AC yn credu, er mwyn sicrhau’r effeithiolrwydd gorau posibl, y dylid gwahodd cyrff allanol a allai hyrwyddo saethu, a darparu gwybodaeth i ehangu cyrhaeddiad y grŵp.

Dywedodd Lindsay Whittle, AC, fod y ffigurau economaidd a gafwyd yn yr adroddiad diweddar ar Werth Saethu yn dweud cyfrolau, ac roedd yn amlygu’r ffaith nad yw saethu yn fater gwledig yn unig. Roedd hefyd yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at agwedd gymdeithasol saethu a champau saethu. 

 

Roedd Tim Russell, BASC, o’r farn bod cadwraeth yn cael ei gydnabod fel arferiad pwysig yng Nghymru, ond gallai’r grŵp fod yn fodd o chwalu canfyddiadau negyddol a syniadau rhagfarnllyd am y gamp. Gwelodd Mr Russell y fantais o gysylltu bwyd, twristiaeth a’r budd economaidd gyda chadwraeth, a byddai hynny yn ei dro yn cyfrannu o ran dylanwadu ar bolisi yn y dyfodol, a’i lunio.

 

Awgrymodd Lindsay Whittle, AC y byddai unrhyw enghreifftiau da o arallgyfeirio yn bwnc defnyddiol ar gyfer trafodaeth yn y cyfarfod nesaf.  Cytunodd y grŵp cyfan ar hynny.

 

Cytunodd y grŵp hefyd y dylai’r cyfarfodydd gael eu cynnal unwaith y tymor, ac y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Roedd Llyr Huws Gruffydd yn meddwl y dylai’r grŵp geisio cyrraedd y tu hwnt i’r rhai a fyddai fel arfer, ac yn naturiol, yn ymgysylltu, ac y bydd angen i’r grŵp hwn fod yn greadigol wrth herio stereoteipiau yn llwyddiannus. Ymhlith yr awgrymiadau gan y grŵp, oedd cynnwys y Bwrdd Croeso, perchnogion bwytai ac amgueddfeydd, ac eraill yn y grŵp.

 

Ystyriwyd hefyd y byddai’n syniad da i wahodd Aelodau’r Cynulliad i seminar a drefnwyd gan bobl nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig â saethu, a fyddai’n sicrhau bod pobl yn sylwi. Ym marn y grŵp, dylent hefyd ystyried y thema hamdden awyr agored, a chreu apêl ehangach, drwy dynnu sylw at yr effaith a gaiff saethu ar gadwraeth. Dylai’r grŵp hefyd amlygu a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da gyda’r sector.

 

Cytunwyd yn gyffredinol y dylai unrhyw rywogaeth chwarel a gaiff ei saethu gael ei ddefnyddio, ac roedd hon yn neges allweddol i’r grŵp ei gyfleu.

 

Y meysydd allweddol ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol yw:

·         Mynd i’r afael â chanfyddiadau negyddol ynghylch saethu, drwy godi ymwybyddiaeth o fanteision saethu; ac

·         Archwilio cyfleoedd i hybu ac ehangu’r sector er budd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol Cymru.

 

Ethol swyddogion

Etholwyd y swyddogion a ganlyn:

Angela Burns AC - Cadeirydd

Esther Wakeling, BASC - Ysgrifennydd

 

Gwerth Saethu yng Nghymru, a gyflwynwyd gan Kate Ives, Swyddog Ymchwil, BASC

 

Canolbwyntiodd y cyflwyniad ar y manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol o saethu yng Nghymru, gan dynnu sylw at ganfyddiadau ymchwil annibynnol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan 16,000 o ymatebwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r ymchwil yn nodi bod saethu yn werth £75 miliwn i Economi Cymru gyda £11m ohono’n werth gros uniongyrchol ychwanegol (GVA)  [GVA yw’r cyfanswm o holl refeniw, o werthiant terfynol a chymorthdaliadau (net), sydd yn incwm ar gyfer busnesau]. £64m oedd gwariant cyflenwr rownd gyntaf, ac mae’n creu 2,400 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.

 

Mae oddeutu 18% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru, 380,000 o hectarau, yn cael ei ddylanwadu gan saethu a saethwyr, a gyfrannodd 120,000 o ddiwrnodau gwaith cadwraeth, sy’n gyfwerth â 490 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. Mae darparwyr saethu yn gwario £7.4m ar gadwraeth.

 

Dywedodd 98% o’r bobl sy’n saethu yng Nghymru hefyd bod manteision o ran eu lles cyffredinol yn sgîl saethu. Mae o leiaf 76,000 o bobl yn saethu yng Nghymru; mae 2,900 o ddarparwyr sy’n darparu’r hyn sy’n cyfateb i 450,000 o ddiwrnodau saethu yng Nghymru.

 

Mae tystiolaeth bod manteision i’r gymuned yn sgîl saethu.

Mae 87% yn credu ei fod yn annog gwead cymdeithasol.

Mae 64% o staff yn byw yn lleol.

Mae 81% yn elwa o gyflogaeth a sgiliau.

Mae 54% yn elwa o dwristiaeth dros nos.

 

Mae saethu yn cyfrannu at reoli plâu, a fyddai, fel arall yn costio £7,900 y flwyddyn am bob darparwr, gyda’r fantais ychwanegol o gynyddu bioamrywiaeth.

 

Mae poblogrwydd bwyta cig anifeiliaid hela iach yn cynyddu, ac mae rhagor o bobl yng Nghymru yn bwyta’r cig nag mewn rhannau eraill o’r DU.

 

Trafodaeth grŵp

 

Roedd y grŵp o’r farn bod y ffigurau a nodwyd yn amlygu pwysigrwydd saethu yng Nghymru, a bod y fantais o ran twristiaeth i Gymru yn bennaf y tu allan i’r tymor gwyliau arferol.

 

Roedd iechyd a lles cymdeithasol hefyd yn ystyriaethau pwysig.

 

Cytunodd y grŵp mai cnewyllyn y syniad ar gyfer y grŵp hwn yw mynd i’r afael â chamsyniadau a dileu stereoteipiau.

 

Atgoffodd Andrew RT Davies BASC hefyd mai’r etholwyr sy’n cael yr effaith fwyaf gydag Aelodau’r Cynulliad, ac mor bwysig ydoedd defnyddio aelodau BASC i lobïo eu Haelodau Cynulliad ledled Cymru.

 

Estynnodd Gary Ashton wahoddiad i Aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol fynychu stondin BASC yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ddydd Llun a dydd Mawrth, 1 a 2  Rhagfyr.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Chwefror 2015, gyda’r lleoliad i’w gadarnhau.